Rhwydwaith Morwellt Cymru yn cyflwyno Cynllun Gweithredu Morwellt Cenedlaethol i Senedd Cymru

Yng Ngorffennaf 2024 cyflwynodd Rhwydwaith Morwellt Cymru Cynllun Gweithredu Morwellt Cenedlaethol i’r Senedd.  

Mae dolydd morwellt yn gynghreiriaid hollbwysig i fynd i’r afael â’r argyfyngau hinsawdd a bioamrywiaeth yn fyd-eang. Mae’r Cynllun Gweithredu Morwellt Cenedlaethol yn ymateb uniongyrchol i gyflwr presennol cynefinoedd morwellt yng Nghymru a’r angen am ddull cydgysylltiedig o gyflawni yn erbyn ymrwymiadau polisi cyfredol.

Mae gan Gymru gyfle i arwain y ffordd o ran adfer morwellt. Mae’r cynllun yn cyflwyno glasbrint o gamau gweithredu dros y pum mlynedd nesaf i gyflawni gweledigaeth lle mae dolydd morwellt Cymru yn cefnogi bioamrywiaeth forol, cymunedau bywiog, economi gynaliadwy, ac yn gwneud cyfraniad gwerthfawr at yr ymateb brys i hinsawdd.

Dyma’r 4 maes blaenoriaeth ar gyfer gweithredu sydd eu hangen i gyflawni’r weledigaeth hon:

●     Mapio morwellt Cymru

●     Adeiladu partneriaethau ar draws y tir a’r môr

●     Atal colli morwellt

●     Gwrthdroi colled morwellt

 

Mae Rhwydwaith Morwellt Cymru yn grŵp cydweithredol o gyrff anllywodraethol, academyddion, busnesau masnachol, y llywodraeth, ac asiantaethau rheoli o bob rhan o Gymru sy’n gweithio tuag at ddiogelu ac adfer dolydd morwellt ar hyd arfordir Cymru.