Rhwydwaith Morwellt Cymru

Cydweithio i gadw morwellt Cymru yn ddiogel

Gwarchod Ecosystemau Morwellt

Sicrhau dyfodol morwellt Cymru

Mae Rhwydwaith Morwellt Cymru yn blatfform cydweithredol sy’n darparu llais unedig i sicrhau dyfodol i forwellt yng Nghymru.

Nod y rhwydwaith yw cynyddu ymwybyddiaeth y cyhoedd o ddolydd morwellt ar draws Cymru. Mae’n rhannu gwybodaeth arbenigol ac yn sbarduno camau gweithredu cydgysylltiedig i gefnogi’r gwaith o ddiogelu a gwella dolydd morwellt Cymru i’r dyfodol drwy wella gwyddoniaeth, monitro, rheolaeth ac addysg.