Adfer De a Gorllewin Cymru

Manylion y Prosiect

Mae’r Prosiect Morwellt yn archwilio’r potensial ar gyfer adfer morwellt yn ardaloedd Llanelli a Chaerdydd, gyda chefnogaeth Swyddogion ACA - Ardaloedd Cadwraeth Arbennig Sir Benfro, Baeau ac Aberoedd Sir Gaerfyrddin, ac Aber Afon Hafren.

Mae'r prosiect hwn yn un o'r rhai cyntaf yng Nghymru i dreialu cyd-adfer gwellt y gamlas Zostera marina a chorwellt y gamlas Nanozostera noltei. Bydd dulliau adfer seiliedig ar hadau a thrawsblannu yn cael eu treialu, ar raddfa fach. Yna bydd y treialon plannu yn cael eu monitro'n rheolaidd gan y tîm i gymharu cyfraddau llwyddiant gwahanol ddulliau.

Adeilada’r proiect hwn ar waith adfer llwyddiannus ym Mae Dale, ail-hadu'r ardal adfer a threialu trawsblaniadau yn y safleoedd. Mae'r prosiect ar hyn o bryd yn ymgysylltu â chymunedau ar draws pob safle, gan rannu cyfleoedd ar gyfer cyfranogiad a mewnbwn.

Lleoliadau

  • Llanelli
  • Caerdydd
  • Dale

Partneriaid