Achub Morwellt o'r Môr: Gogledd Cymru

Disgrifiad

Nod rhaglen Achub Morwellt: Gogledd Cymru yw plannu morwellt dros ardal o ddeg hectar ar draws Gogledd Cymru, ynghyd â chymunedau lleol.

Caiff hadau morwellt eu casglu o ddolydd rhoddwyr iach ym Mhorthdinllaen. Yna maent yn cael eu plannu mewn safleoedd adfer sydd wedi'u nodi fel rhai addas ar gyfer morwellt.

Mae partneriaid y prosiect yn gweithio gyda gwirfoddolwyr, elusennau, busnesau, ysgolion, a rhanddeiliaid ar draws ardaloedd y prosiect i nodi safleoedd addas ar gyfer adfer, cynnal arolygon, casglu a phlannu hadau a thrawsblaniadau, a monitro cynnydd.

Mae’r prosiect yn cynnwys cynllun Hyrwyddwyr Achub Cefnfor Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru, sy’n rhoi’r cyfle i bobl ifanc ddysgu sgiliau mewn cadwraeth forol, adeiladu gwaith tîm a hyder.

Digwydda’r gwaith adfer morwellt hwn fel rhan o'r prosiect rhwng 2022 a 2026. Yn dilyn hyn, bydd cam monitro i sicrhau dyfodol morwellt iach yn y safleoedd adfer gydag ymgysylltiad a hyfforddiant parhaus i randdeiliaid lleol.

Rheolir y prosiect gan WWF, mewn partneriaeth â Phrosiect Morwellt, Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru, Pen Llŷn a’r Sarnau Ardal Cadwraeth Arbennig (SAC) â Phrifysgol Abertawe. Gwneir y rhaglen yn bosibl gyda chefnogaeth cyllidwyr sy'n cynnwys Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, Garfield Weston Foundation, a’r Moondance Foundation.

Lleoliadau

  • Carreg y Defaid
  • Penychain
  • Pentir Penrhos
  • Traeth Penial

Partneriaid

Dolenni

  • Seagrass Ocean Rescue
  • Plannu Gobaith - Sut y gall morwellt fynd i'r afael â newid hinsawdd