ReSOW (Adfer Morwellt ar gyfer Cyfoeth y Cefnfor)

Manylion Prosiect

ReSOW – Mae Adfer Morwellt ar gyfer Cyfoeth y Cefnfor yn brosiect amlddisgyblaethol sy’n bwriadu defnyddio dull cyfannol, seiliedig ar systemau, sy’n integreiddio dealltwriaeth o weithrediad amgylcheddol â blaenoriaethau amrywiol y rhai sy’n defnyddio, neu’n elwa ar, yr arfordir.

Mae Llywodraeth y DU wedi cydnabod yr angen am atebion sy’n seiliedig ar natur i newid yn yr hinsawdd fel rhan o darged y DU o gyrraedd allyriadau Sero Net erbyn 2050.

Mae dolydd morwellt yn creu storfa hynod effeithlon a hirdymor o garbon yn eu gwaddodion morol ac yn darparu cynefin i ystod eang o rywogaethau a gwella bioamrywiaeth. Mae eu hadfer yn caniatáu iddynt gyfrannu'n allweddol at yr atebion hyn.

Y canlyniad terfynol yw cynhyrchu’r offeryn ‘Cymorth i Benderfyniadau Gwella Ecosystemau Arfordirol’ neu CEEDS a fydd yn helpu i hysbysu rhanddeiliaid am y lleoliadau gorau i adfer morwellt. 

Lleoliadau

Mae aelodau tîm ReSOW wedi'u lleoli yn y mannau yma

Lleolir safleoedd astudiaeth achos (ardaloedd) ym Mhorthdinllaen, Aberdaugleddau, Craignish, Studland Bay, Solent, Ynysoedd Scilly, Ynysoedd Orkney.

Ceir rhagor o fanylion am yr astudiaethau achos yma: https://resow.uk/study-locations  

Partneriaid

Dolenni